Newyddion

Drosera rotundifolia

Planhigyn pryfysol yn y Cwm! (gan Iolo Jones)
Un o’r planhigion rhyfeddol a ellir ei weld yng Nghwm Idwal yw’r Gwlithlys, neu Chwys yr haul (Drosera rotundifolia). Fel mae’r enw yn ei hawgrymu, gellir ei adnabod trwy ei ddiferion gludiog llawn neithdar, sy’n cael ei ddefnyddio i ddal pryfaid! Fel Tafod y gors, sydd hefyd yn tyfu yn y Cwm, mae’r planhigion hyn yn dal a threulio pryfaid bychan. Mae hyn yn ffordd o gael y mwynhau angenrheidiol mae’r planhigion angen i dyfu, gan fo’r planhigion fel arfer yn byw mewn mannau corsiog gyda diffyg nitrogen (sy’n angenrheidiol ar gyfer tyfiant planhigion).

chwys yr haul

Yn ogystal â bod yn gynefin addas ar gyfer pryfaid, mae’r Cwm hefyd gyda ardaloedd eang o briddoedd asidig, sy’n darparu amodau ffafriol ar gyfer y Gwlithlys.
Gan fo llethrau uchel Cwm Idwal yn cynnwys creigiau ‘llai sur’, a mannau lle nad yw’n bosib i ddŵr gronni mewn corsydd, rydych yn llawer llai tebygol o ganfod y Gwlithlys yn y mannau uchel, serth hyn.
Yn ôl pob sôn, gellir defnyddio’r planhigyn i drin unrhyw beth o ddafadennau a chyrn i asthma a broncitis – ond cofiwch beidio â niweidio unrhyw blanhigion yn y gwyllt, os gwelwch yn dda.

chwys2

Mae’n bosib darganfod amrywiadau o’r planhigyn yma ledled y byd, heblaw yr Antarctig (‘sgwn i pam?). Ynn Ngorllewin Awstralia mae un rhywogaeth yn tyfu hyd at 10m o uchder! Yn ffodus i ni, dim ond i ryw daldra o bum modfedd mae’r rhai yng Nghwm Idwal yn tyfu.
Gellir gweld y gwlithlys mewn ambell fan corsiog yn y Cwm ar hyn o bryd, ond bydd rhaid chwilio yn dda amdano – a chael eich traed yn wlyb!
Os ydych eisiau gwybod mwy amdan y gwlithlys, gweler y dolennau isod:

An insectivorous plant in the Cwm! (by Iolo Jones)

One of the fascinating plants on show in Cwm Idwal is the Roundleaved Sundew, Drosera rotundifolia. As its name suggests, it can be recognised by its sticky nectar globules, which are used to catch unsuspecting insects! Similarly to Butterwort, which can also be spotted at the Cwm, catching and digesting flies supplements the diet of the plant, which lives in nitrogen-deficient bogs.
Additional to providing plenty of insects for the Sundews to consume, thanks to the standing water of the lake and bogs, Cwm Idwal also provides the asidic soil needed for the plants to grow. Because the slopes of the Cwm are less asidig and have less standing water, you are far less likely to find Sundews here than around the lake.

chwys yr haul

Sundews are supposed to be able to be used to cure anything from warts and corns to asthma and bronchitis – but please remember not to harm any plants in the wild, please.

chwys2

Variants of Sundews can be found across the world, except for in Antarctica (I wonder why?). In Western Australia one species grows up to 10 metres tall! Fortunately for us, the Sundews in Cwm Idwal only grow to around 5 inches tall.
It’s possible to see sundews in various boggy places within the Cwm at the moment, but you will have to look well for it – and get your feet wet!

If you would like to learn more about sundews, see the links below:
UK wildflowers (Saesneg yn unig, ond mae dewislen Cymraeg ar gael):
UK wildflowers:
http://www.ukwildflowers.com/Web_pages/drosera_rotundifolia_round_leaved_sundew.htm
Clipiau fideo y BBC (Saesneg yn unig):
BBC video clips:
http://www.bbc.co.uk/nature/life/Drosera
Deg blodyn a gellir eu weld yn Eryri, gan cynnwys y gwlithlys (Saesneg yn unig):
Ten flowers to spot in Snowdonia, including sundews:
http://www.ukhillwalking.com/articles/page.php?id=3711
Wikipedia (Saesneg yn unig):
Wikipedia:
http://en.wikipedia.org/wiki/Drosera
Rhestr enwau cyffredin Drosera rotundifolia : http://www.nhm.ac.uk/research-curation/scientific-resources/biodiversity/uk-biodiversity/uk-species/species/drosera%20rotundifolia.html?lang=cy