Trefnu’r ymweliad

Dyma brif negeseuon diogelwch Mynydda Diogel:

1. Paratowch yn ofalus
Gwnewch yn siŵr bod gennych y cyfarpar cywir gyda chi fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw beth, boed hynny’n dda neu’n ddrwg! Bydd angen i chi ddod â map a chwmpawd, torsh, bwyd a diod, chwiban, pecyn cymorth cyntaf a ffôn symudol â’r batri wedi’i wefru’n llawn. Mae hyd yn oed yn bosibl y byddwch angen eli haul a het ar ddiwrnod braf!

2. Gwybodaeth ddiweddaraf am y tywydd a’r cyflwr dan draed
Edrychwch ar ragolygon y Swyddfa Dywydd ar gyfer mynyddoedd Eryri cyn i chi gychwyn, a byddwch yn
barod i droi’n ôl os bydd y tywydd yn gwaethygu – bydd y mynyddoedd yn dal i fod yma
i chi eu mwynhau y tro nesaf y byddwch chi’n ymweld â’r ardal.

3. Gwisgwch yn briodol
Gall y tywydd a’r tymheredd newid yn ddramatig rhwng godre’r mynydd a’r copa.
Rhaid gwisgo esgidiau cerdded cadarn, sawl haen o ddillad gan gynnwys rhai cynnes, menig a het, yn ogystal â dillad a throwsus glaw.

4. Cadarnhewch eich bod yn gwybod ble ‘da chi’n mynd
Dylech gynllunio eich taith cyn cychwyn a gofyn am gyngor yn lleol. Dewch â map a chwmpawd gyda chi, a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i’w defnyddio; dewiswch lwybr sy’n addas ar gyfer lefel ffitrwydd a phrofiad eich grŵp. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint o amser y dylai gymryd, a faint o’r gloch y bydd hi’n tywyllu.

5. Adnabod eich gallu a therfynau
Er bod mentro allan i’r mynyddoedd yn weithgaredd dymunol iawn, gall fod yn galed hyd yn oed yn yr haf – rhowch her i chi eich hunan, ond byddwch yn ymwybodol o lefelau ffitrwydd a phrofiad y grŵp i gyd – nid rhai chi eich hunan yn unig.

Mewn argyfwng, cofiwch …
.. Os oes angen galw ar dîm achub mynydd, rhaid i chi ddeialu 999, a gofyn am yr Heddlu, ac wedyn Tîm Achub Mynydd.

Mountain Rescue

Mae enghraifft o asesiad risg sy’n addas ar gyfer Cwm Idwal i’w gael gan swyddog partneriaeth Cwm Idwal.