Bywyd gwyllt Cwm Idwal

Yng Nghwm Idwal mae cofnod o nifer helaeth o anifeiliaid, o anifeiliaid di-asgwrn cefn i bysgod, amphibiaid, mamaliaid ac adar.

Hebog Tramor - Falco PeregrinusMae cynefinoedd arbennig Cwm Idwal yn cynnwys y planhigion hynny sy’n denu pryfetach neilltuol, sydd yn eu tro yn denu’r anifeiliaid hynny sy’n eu hela. Mae’r cynefinoedd hefyd yn darparu cyfleoedd nythu, bwydo a paru, boed hynny yn glogwyn serth, afon neu ardal o rostir sych.

Mae arolygon o Gwm Idwal yn cofnodi’r anifeiliaid hynny sy’n byw yno. Bydd yr arolygon hyn yn cael eu goruchwylio gan Bartneriaeth Cwm Idwal.

Mae cyfleon i’r cyhoedd gofnodi pa anifeiliaid sydd i’w canfod yma drwy wirfoddoli gyda chyrff cadwraethol, neu gan ddefnyddio meddalwedd cofnodi fel ‘Birdtrack’, sef system gofnodi cyhoeddus yr Ymddiriedolaeth Adarydda Brydeinig

Mae croeso i’r cyhoedd rannu cofnodion o anifeiliaid neu blanhigion drwy ddarparu llun, lleoliad a’r amser cofnodi i’r swyddogion yn y swyddfa ger y ganolfan ymwelwyr neu ym Mwthyn Ogwen.

Mursen Fawr Goch (Pyrrhosoma Nymphula)
Mursen Fawr Goch (Pyrrhosoma Nymphula)