Campio Gwyllt

Mae Cwm Idwal yn safle eiconig a phoblogaidd ac mae rheoli’r warchodfa yn aml yn golygu cydbwyso rhwng helpu ymwelwyr i fwynhau’r ardal a gwarchod y natur sy’n gwenud Cwm Idwal mor arbennig.

Mae campio anghyfrifol yn gallu dod ag amrwyiaeth o fygythiadau i’r warchodfa natur, megis llygredd gweledol a sŵn sy’n amharu ar lonyddwch ac naws yr ardal. Mae campio hefyd yn aml yn mynd law y llaw gyda taflu ysbwriel ac mae BBQ a tannau sy’n gysylltiedig efo campio yn cynnal bygythiad tân sylweddol, a all ddinistrio cynefin, bywyd gwyllt a degawdau o ymdrechion cadwraethol.

Nid ydym yn caniatáu campio yng Ngwm Idwal er mwyn diogelu’r Warchodfa Natur Genedlaethol rhag y bygythiadau yma sy’n gysylltiedig efo campio.

Os hoffech wybod mwy, neu gwybod am faesydd campio gerllaw, mae croeso i chi holi’r ceidwad.

Diolch i chi am ein helpu i ofalu am Warchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal