Daearyddiaeth

TIRFFURFIAU RHEWLIFOEDD

Yn ystod Oes y Rhew, roedd haen drwchus o rew dros ardal eang o Eryri ac roedd rhewlifoedd llai yn ffurfio pan oedd eira yn cywasgu i ffurfio talpiau mawr o rew a oedd yn symud i lawr y mynyddoedd.

Roedd y rhewlifoedd hyn yn casglu mewn cymoedd megis Cwm Idwal, Cwm Cneifion a Chwm Clyd ac wrth symud i lawr y llethrau roeddent yn plicio cerrig o waliau cefn y cymoedd ac yn sgrafellu’r gwaelod i adael pantiau bas. Wrth i’r rhewlifoedd gilio roedd defnydd yn cael ei ddyddodi mewn tomenni a elwir yn farianau. Mae marianau ger Llyn Idwal a elwir yn ‘Beddau Milwyr Ynys Prydain’. Ceir un marian hir yn rhedeg ar ochr ddwyreiniol y Llyn sydd, ynghyd â’r graig galed ym mhen Gogleddol y Cwm, yn ffurfio ymylon llyn rhewlifol – Llyn Idwal. Mae’r tirffurfiau hyn i’w gweld yng Nghwm Idwal heddiw, ac yn destun astudiaeth i nifer helaeth o fyfyrwyr o bob oed.

Cwm Idwal
Cwm Idwal

Mae siâp powlen Cwm Idwal yn nodweddiadol iawn o gwm rhewlifol, gyda wal gefn ac ochrau serth, marianau a llyn.

Nant Ffrancon
Nant Ffrancon

Mae Nant Ffrancon, sydd i’r Gogledd o Gwm Idwal, yn ddyffryn siâp ‘U’ neu gafn rhewlifol clasurol, gyda dyffryn ag ochrau serth, llawr gwastad a’r Afon Ogwen (sy’n afon afrwydd) yn llifo ar hyd llawr y dyffryn.