Beth yw erydiad llwybrau?

Mae erydiad llwybr yn gyfuniad o effaith yr elfennau ac effaith pobl.

Erydiad llwybrauUnwaith bydd llystyfiant a strwythur y pridd wedi ei wanhau gan draed pobl, bydd dŵr a gwynt yn cludo’r pridd i ffwrdd nes cyrraedd y craigwely neu haen o gerrig a chreigiau yn y pridd. Mae ardaloedd sydd wedi’i erydu fel hyn yn ymddangos fel creithiau yn y tirlun, sy’n gallu amharu ar harddwch ardal neu fygwth cynefinoedd wrth i’r ardal o erydiad ehangu.

Mae ardal Eryri a Chwm Idwal yn ardal o lawiad blynyddol uchel, ac mae’r tymheredd cymharol isel yn yr ardal fynyddig hon yn golygu fod tyfiant planhigion yn gymharol araf. Gall hyn greu amodau anodd iawn i blanhigion ail sefydlu mewn ardal sydd wedi cael ei herydu. Mae’r cyflymdra erydiad mewn ardal yn dibynnu ar ongl y llethr, yr hinsawdd, a’r math o lystyfiant sy’n gorchuddio’r pridd. Mae cawodydd trymion yn gallu rhyddhau a symud pridd ar ben ei hun, ac os yw’r pridd yn ddwrlawn bydd y dŵr yn symud yn gynt i lawr y mynydd. Mae hyn i’w weld yn digwydd mewn ardaloedd lle mae’r pridd wedi ei gywasgu gan draed, gan fod y priddoedd hyn yn dal llai o ddŵr na phriddoedd sydd heb eu cywasgu. Pan fydd y pridd yn ddwrlawn ar ran gwastad o lwybr, mae’n ffurfio pwll. Gan amlaf mae cerddwyr yn trio osgoi pyllau o’r fath, ac yn cerdded o’u hamgylch, gan ledaenu’r ardal sy’n cael ei herydu.

Mae mathau gwahanol o bridd hefyd yn cynnwys gwahanol lefelau o garbon, gyda mawn yn dal y crynhoad uchaf o garbon. Mae erydiad ar fawn yn arwain at ryddhau carbon deuocsid, sef un o’r nwyon sy’n cyfrannu at gynhesu byd eang.

Yng Nghwm Idwal mae ymdrin ag erydiad yn her i’r bartneriaeth, sydd eisiau darparu cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau’r warchodfa heb achosi difrod i’r safle. Ond eto wrth ddenu mwy o bobl i’r ardal mae pwysau traed, ac erydiad yn sgil hynny, yn cynyddu.