Monitro’r llwybrau

ADFER Y LLWYBRAU

Yng Nghwm Idwal, defnyddir cerrig i roi gwyneb ar y llwybrau.

Llwybr Cwm Idwal

Mae rhinweddau daearegol Cwm Idwal o bwysigrwydd rhyngwladol, ac o’r herwydd ni ddefnyddir cerrig o’r safle. Mae cerrig addas yn cael eu prynu a’u cludo i’r darn o lwybr sydd angen ei drwsio. Gwneir hyn gan amlaf gan hofrennydd, sy’n costio tua £900 yr awr.

Mae gan Warchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal gyllid blynyddol ar gyfer gwaith cyfalaf, fel adfer llwybrau. Gall y cyllid hwn newid yn flynyddol, felly mae’n rhaid blaenoriaethu gwaith llwybrau. Er mwyn darganfod ble mae’r erydu ar ei waethaf, rhaid monitro’r llwybrau yn gyson, a drwy wneud yr arolygon hyn cawn weld pa ddarnau o lwybr sydd angen eu hadfer.

Wrth benderfynu pa ddarn o lwybr sy’n cael ei adfer gyntaf rhaid ystyried y canlynol:

  • Pwysau cerdded blynyddol ar y llwybr / beth yw’r peryg fod yr erydiad yn ehangu.
  • Bygythiad erydu i rywogaethau.
  • Bygythiad erydu i gynefinoedd.
  • Perygl posib o lygru.
  • Natur a lleoliad y llwybr – bydd canran uwch o ymwelwyr yn defnyddio llwybrau isel yng Nghwm Idwal, felly bydd y pwysau cerdded yn uwch.
  • Diogelwch y cyhoedd – Os oes rhywbeth wedi digwydd sydd yn gwneud unrhyw lwybr troed yn beryglus, bydd y darn hwn o lwybr yn cael sylw gyntaf.