Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal

TROSOLWG / CYFLWYNIAD

ARWYNEBEDD — 3.88km2, 398 hectar
UCHDER — 373m, 1001m

Ym 1954, dynodwyd Cwm Idwal fel y Warchodfa Natur Genedlaethol gyntaf yng Nghymru, a heddiw mae’n fan poblogaidd iawn i ystod eang o ymwelwyr.

Y prif reswm dros ddynodi Cwm Idwal fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol oedd y ddaeareg unigryw a geir yma. Yr ail reswm yw’r planhigion prin hynny sy’n gysylltiedig â’r ddaeareg hwnnw. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru’n cydweithio i reoli Cwm Idwal.