Planhigion prin

Mae nifer o blanhigion anhygoel yng Nghwm Idwal, ac mae’r rhan fwyaf o’r planhigion mwyaf prin yn rhai ‘Arctig-alpaidd’.

Fel sy’n amlwg o’r enw ‘Arctig -alpaidd’, mae’r planhigion yma wedi ymgartrefu mewn hinsoddau oer iawn fel y ceir yn yr Arctig, ym mynyddoedd uchel yr Alpau, ac yng Nghwm Idwal.

Mae ardaloedd o fewn Cwm Idwal yn cynnig cynefin delfrydol ar gyfer rhai o’r planhigion hyn, sydd wedi addasu yn berffaith ar gyfer byw yn y fath le. Rhai o nodweddion y planhigion ‘Arctig-alpaidd’ yw bod y planhigion blodeuol yn tyfu mewn matiau neu ‘glustogau’ isel sydd â thymor blodeuo byr; mae hyn yn eu diogelu rhag yr elfennau eithafol sydd i’w cael yn yr ardaloedd hyn. Fel arfer mae’r planhigion hyn yn tyfu mewn mannau uchel, uwch na 600m, ac yn wynebu’r Gogledd Ddwyrain.

Un o’r planhigion ‘Arctig-alpaidd’ cyntaf i flodeuo yng Nghwm Idwal yw’r tormaen porffor, neu’r tormaen gyferbynddail, neu i roi ei enw Lladin, saxifraga oppositifolia. Yn y Saesneg ‘Purple saxifrage’ yw ei enw.

Tormaen gyferbynddail (Saxifraga oppositifolia)
Tormaen gyferbynddail (Saxifraga oppositifolia)

Mae’r tormaen cyferbynddail fel arfer yn blodeuo o tua mis Chwefror drwy fis Ebrill, ond mae’r tymor blodeuo yn newid yn amrywio ac yn dibynnu ar y tywydd gaeafol a gawn yng Nghwm Idwal.

Tormaen CyferbynddailMae’r enw tormaen cyferbynddail yn fwy addas na thormaen borffor yng Nghwm Idwal, gan fod blodau gwyn a phinc i’w cael ar y tormaenni hyn yma. Gwelir llun o’r tormaen porffor sydd â blodyn gwyn ar y chwith.

Yn Norwy gelwir y tormaen porffor yn rødsildre, sef y tormaen coch, gan fod blodau mwy coch i’w cael yno, ond yr un planhigyn yw’r ddau. Mae lliwiau’r blodau yn cael eu diffinio gan enynnau’r blodau sydd yn y cynefin. Gallai’r blodyn gwyn fod yn ganlyniad o gyfyngiad genynnol phlanhigion tormaen cyferbynddail Cwm Idwal.

Ffordd effeithiol o geisio adnabod y planhigyn yw drwy astudio strwythur y dail. Yr elfen fwyaf amlwg, ar ôl y blodau yw’r dail 2-6mm, sy’n tyfu gyferbyn â’i gilydd mewn 4 rhes, felly mae’r enw tormaen cyferbynddail yn addas iawn. Mae smotiau gwyn ar flaenau’r dail hefyd – crynhoad o galsiwm sy’n creu’r smotiau hyn.

Brwynddail y mynydd, Lloydia serotina (Ar ôl y naturiaethwr Edward Llwyd) / Gagea serotina, Snowdon Lily
Brwynddail y mynydd, Lloydia serotina (Ar ôl y naturiaethwr Edward Llwyd) / Gagea serotina, Snowdon Lily

Un o’r planhigion ‘Arctic- alpaidd’ enwocaf sy’n tyfu yng Nghwm Idwal yw brwynddail y mynydd, neu Lili’r Wyddfa, sy’n tyfu ar wynebau clogwyni uchaf Y Cwm.