Mynediad

Mae Cwm Idwal yn ardal o fynediad agored. Fodd bynnag, mae nifer o lwybrau pwrpasol o fewn y warchodfa i chi fwynhau, ac sydd hefyd yn amddiffyn y cynefinoedd prin. Mae’r prif lwybr yn mynd o amgylch Llyn Idwal a tua 4Km o hyd. Gwyliwch y fideo byr isod i weld os ydi natur y llwybr yn addas i chi.

Mae esboniad lawn o beth yw tir mynediad i’w gael yma:

www.naturalresources.wales/days-out/recreation-and-access-policy-advice-and-guidance/managing-access/open-access-land/?lang=cym

Isod mae cylchdeithiau posib, y gallech eu dilyn yng Nghwm Idwal:

www.eryri.llyw.cymru/visiting/walking/leisure-walks/cwm-idwal

www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/carneddau-and-glyderau/trails/taith-cwm-idwal

Mae nifer o ddringfeydd i’ch herio yn yr Haf a’r Gaeaf, ac mae digon o lyfrau ar gael sy’n dangos llwybr y dringfeydd. Mae amryw o lyfrau i’ch helpu chi ddysgu am lwybrau’r dringfeydd hyn yng Nghwm Idwal ac Eryri ac mae cyngor ar ddringo mynydd i’w gael yma:

www.eryri.llyw.cymru/shop/guides/climbing

Mae gwybodaeth am ddringo gaeaf cyfrifol i’w gael fan hyn:

www.snowdonia-active.com/upload/documents/nwwgwelshA4lo-res.pdf

Mae Lôn Las Ogwen yn rhedeg o Fangor at y Ganolfan Ymwelwyr, cewch ragor o wybodaeth yma:

www.sustrans.org.uk/ncn/map/route/lon-las-ogwen