Ecosystemau

Mae Ecosystem yn gymdeithas o organebau biolegol (anifeiliaid, planhigion, a chreaduriaid byw eraill) sy’n byw yn yr un amgylchedd.

O fewn ecosystem mae defnydd ac egni yn symud rhwng yr organebau. Mewn ecosystem mae cydbwysedd rhwng yr organebau â’r elfennau ac mae’r hinsawdd yn chwarae rhan bwysig yn y berthynas hon. Mae newid mawr o fewn ecosystem yn gallu arwain at nifer o’r organebau biolegol yn marw.

Priddoedd

Mae pridd yn cael ei ffurfio wrth i ddeunydd organig bydru, a’i dreulio gan organebau byw. Mae’r math o bridd a geir mewn ecosystem yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis y deunydd organig sydd ar gael i ffurfio’r pridd, a’r math o hinsawdd. Mae’r hinsawdd hefyd yn diffinio pa mor gyflym y mae pridd yn cael ei ffurfio. Yng Nghwm Idwal, mae’r dirwedd yn cael cryn effaith ar ffurfiant y pridd. Mae tirwedd yn effeithio ar briddoedd mewn nifer o ffyrdd:

a) Traeniad – gwael ar lwyfandiroedd uchel a throed llethrau. Da ar lethrau.

b) Trawsgludiad deunydd – o rannau uchaf a chanol llethrau tua’r gwaelod (effaith disgyrchiant a dŵr – erydiad a mas-symudiad).

c) Trwytholchiad – o’r rhannau uchaf at y rhannau isaf.

Yn ogystal â’r dirwedd mae cemeg y craigwely yn effeithio ar briddoedd ardal Cwm Idwal a Nant Ffrancon, a’r berthynas rhwng y dirwedd, y priddoedd a’r hinsawdd sy’n diffinio pa blanhigion sydd wedi addasu i oroesi yn yr ardal hon.