Rheoli’r Warchodfa

Rheolir y warchodfa drwy bartneriaeth sy’n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cyflogir swyddog drwy’r bartneriaeth. Mae nifer o ddynodiadau ar safle Cwm Idwal sy’n dylanwadu ar reolaeth y safle.

Isod mae rhestr o’r dynodiadau:

Gwarchodfa Natur Genedlaethol

Ardal Cadwraeth Arbennig

Safle RAMSAR

Cafodd Cwm Idwal ei ddynodi fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol ym 1954, ond mae’r rheoli wedi newid cryn dipyn ers hynny, ac o’r herwydd, mae’r tirlun wedi newid yn sylweddol hefyd. Diddymwyd defaid a gwartheg o Gwm Idwal tua 1998, ond yn ystod y 1960au a’r 1970au codwyd plotiau arbrofol i weld ar ba raddfa y byddai’r cynefin uchafbwynt hinsoddol terfynol, sef coed collddail, yn dychwelyd.

Gwelwn o’r lluniau ar y chwith bod y cynefinoedd wedi trawsnewid o laswelltir i rostir sych, ac yn y plot mwyaf, a’r plot mwyaf Gogleddol yng Nghwm Idwal, mae coed fel celyn a’r griafolen wedi dychwelyd.

1979 2023

1968
1979
1984
1990
2004
2023

Heddiw mae’r warchodfa gyfan yn arbrawf mesur cyflymdra olyniaeth. Gan nad oes ffiniau o amgylch terfyn y warchodfa defnyddir gwasanaeth bugeiliaid i gadw defaid ar y tiroedd amaethyddol sy’n terfynu ar Gwm Idwal. Yn ogystal â rheoli’r bugeilio, rhaid rheoli effaith pobl ar Gwm Idwal hefyd. Mae nifer helaeth o bobl yn ymweld â Chwm Idwal pob blwyddyn, ac mae hyn yn gallu arwain at erydiad llwybrau, yn enwedig ar adegau prysuraf y flwyddyn.

Mae llwybrau troed effeithiol yn gymorth i warchod safle fel Cwm Idwal mewn nifer o ffyrdd. Mae llwybrau sydd ag wyneb cerrig a traeniad da yn ddeniadol iawn ar gyfer y canran uchaf o gerddwyr – sef teuluoedd, grwpiau addysg, a phobl sydd yn dechrau dod
i adnabod y mynyddoedd. Tueddai’r mwyafrif o ymwelwyr i Gwm Idwal aros ar y llwybrau, er fo’r ardal gyfan yn ardal o fynediad agored.

Yn ogystal â darparu ffordd ddiogel i gerddwyr, mae llwybr sydd wedi’i gynnal yn effeithiol yn diogelu ardaloedd bregus cyfagos, gan ddenu pobl i ffwrdd o’r mannau lle mae planhigion prin, fel rhai ‘Arctic-alpaidd’, yn tyfu.

Darllen pellach: Tir Mynediad Agored