Lleoliad

Map o Cwm Idwal
© Arolwg Ordnans 2017 100023974

CÔD POST – LL57 3LZ
CYFEIRNOD GRID – SH 649 603

Mae’r ganolfan ymwelwyr wedi ei lleoli wrth ymyl ffordd yr A5, tua 5 milltir i’r de o Fethesda a thua 4 milltir i’r gorllewin o Gapel Curig, ar ben gorllewinol Llyn Ogwen.

Mae maes parcio talu ac arddangos y tu allan i’r ganolfan, sy’n addas ar gyfer ceir a bysiau bach. Cynghorir bysiau mawr i barcio lle sy’n gyfreithiol oddi ar y ffordd e.e. y meysydd parcio sydd ar ochr Llyn Ogwen, oddeutu 1km o’r ganolfan i gyfeiriad Capel Curig.

Cyfleusterau

Mae toiledau ac un gawod ar y safle, sy’n agored drwy’r dydd a nos, ac mae yna rywfaint o le i eistedd y tu mewn a thu allan i’r ganolfan.

Lluniaeth

Yn y ganolfan ymwelwyr mae yna giosg lluniaeth ysgafn sy’n gwerthu byrbrydau poeth ac oer, ac mae hwn ar agor rhwng 9am a 4pm fel arfer gyda’r amser cau yn hwyrach yn ystod yr Haf.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gaffi ym Mwthyn Ogwen sydd fel arfer yn agored ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol.