Llinell amser

Mae’r holl ddigwyddiadau a nodir yn y llinell amser isod wedi cael effaith ar y tirlun yng Nghwm Idwal a’r ardal gyfagos.


450 MILIWN o flynyddoedd yn ôl
Dyddodion yn casglu ar waelod y môr, ffurfio haenau, cywasgu i ffurfio creigiau.


40 MILIWN o flynyddoedd yn ôl
Gwrthdrawiad tectonig – plygu’r creigiau synclein etc.


125,000 – 25,000 oes y rhew
Tirffurfiau rhewlifol.


9,000 – 6,000 o flynyddoedd yn ôl Mesolithig Hwyr
Darnau archeolegol.


OES COPR – OES EFYDD – OES HAEARN
Newid mewn patrymau amaethyddol, defnydd tir, Iaith / diwylliant ‘Geltaidd’.


TYWYSOGION GWYNEDD
Llywelyn, Dafydd.


DEDDFAU AMGÁU TIR
Deddfau Amgáu Tir (Land Inclosure / Enclosure Act).


AIL RYFEL BYD
Galw am fwyd – amddiffynfeydd yn y tirlun.


1947
Deddf Amaethyddol.


1951
Trosglwyddo Tir o stad y Penrhyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.


1954
Cwm Idwal yn cael ei ddynodi fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.


1970’au
Plotiau atal pori yn cael eu ffensio yn y Cwm.


1994-1998
Atal defaid yn gyfan gwbl.


2000
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy.


2003-2008
Diwygiad Y Polisi Amaethyddol Cyffredin a Thaliadau Sengl i Ffermydd.


2019/2020
Gadael yr Undeb Ewropeaidd.


Mae cyfrol Thomas Pennant (‘A Tour in Wales’ 1781), a chyfrol Hugh Derfel Hughes (Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid 1866) yn gyfrolau sydd wedi nodi llawer o rinweddau lleol. Mae awduron y cyfrolau hyn wedi ymchwilio’n drylwyr i ystyr enwau lleoedd, arferion pobl, hanesion a phlanhigion, yn ogystal â mapio rhai o’r llwybrau sydd i’w cael ar y mynyddoedd cyfagos.

Un o gymeriadau enwocaf y byd dringo, lleol a chenedlaethol, ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Owen Glynne Jones.

Roedd O.G. Jones yn ddringwr o fri, ac yn ogystal â dyfeisio’r ffordd gyfoes o werthuso dringfeydd yn ôl yr her a oedd yn gwynebu’r dringwr, mae hefyd yn cael ei gydnabod fel un o’r dringwyr cyntaf i ddringo dringfeydd mwyaf poblogaidd ar Graig Idwal a Thryfan yn y dull gyfoes gyda rhaffau.

Darllen pellach

Cyfrolau Ioan Bowen ReesMae mwy i’w ddysgu am fynydda yng nghyfrolau Ioan Bowen Rees