Olyniaeth

Cyn bod ecosystem yn sefydlu rhaid i newidiadau ddigwydd yn yr amgylchedd. Mae’r newidiadau hyn yn digwydd mewn camau, a gelwir y camau hyn yn olyniaeth.

Mae bron i pob ecosystem ar y tir yn cychwyn ar y craigwely, a dyna ddigwyddodd yng Nghwm Idwal. Pan ddaeth creigiau, neu’r craigwely i’r golwg yn dilyn oes y rew ddiweddaraf y cymunedau cyntaf i sefydlu ar y creigiau oedd y cennau. Nid planhigion yw cennau ond cymunedau o algâu neu facteria sy’n cyd-fyw yn symbiotig gyda ffyngau. Unwaith i’r cennau ymsefydlu, yn fuan iawn daeth y mwsoglau ac wrth i’r rhain bydru cynhyrchwŷd biomas, sef pridd. Unwaith i drwch o fiomas, neu bridd, sefydlu roedd llawer mwy o blanhigion yn gallu ymsefydlu ar y creigiau hyn i ffurfio cynefinoedd.

Sefydlodd planhigion arctig-alpaidd ar y llethrau garw ac mae rhai o’r rhain i’w gweld ym mhellafoedd gogleddol Eryri hyd heddiw – brwynddail y mynydd neu Lili’r Wyddfa, tormaen gyferbynddail, â thormaen serennog a gludlys mwsogl. Wrth i’r dyffrynnoedd a’r cymoedd gynhesu cyrhaeddodd coed derw, llwyfen a bedw fu’n ymledu’n raddol tua’r gogledd o Ewrop, a mudodd y planhigion arctig-alpaidd i’r llethrau uchaf. Pen draw olyniaeth yn yr ardal yma oedd coedwigoedd derw, a digwyddodd hyn tua 5000cc pan ledaenodd i uchder o 600m yn Eryri. Ers hynny bu lleihad oherwydd newid hinsoddol a dyfodiad anifeiliaid pori yn yr ardal. Gwelir gweddillion y coed a’u hanes ym mawndir Cwm Idwal sy’n dystiolaeth fod digon o goed yma unwaith. Mae gweddillion ambell gangen, ynghyd â’r paill sydd yn y mawn yn gofnod o’r newid fu yma dros amser.