Newyddion

Cylchdaith drwy 3 tymor – A journey through 3 seasons

Mae hi bron ym mis Chwefror, a newydd cael capiau gwynion mae’r mynyddoedd oamgylch Cwm Idwal. Nid yw hi’n aeaf fel llynadd o bell ffordd hyd yn hyn, yn lle’r awyr las ac eira at lawr y dyffryn, cawn ambell gopa gwyn gyda’r eira yn rhyw sdwnsh gwlyb a llithrig. Gyda’r eira ddechra’r wythnos yma daeth cwmwl isel a glaw mân, felly roedd angen bod ar ben ein sgiliau darllen map er mwyn cyraedd copa’r Garn yn ddiogel. Er fod y siwrna ar derfyn y warchodfa yn llwydaidd, hydrefol, a gwlyb, roedd o’n werth pob cam. Cwta 50m o gopa’r Garn roedd y tywydd wedi gwedd newid a gwelwyd engreifftiau ardderchog ar sut mae’r gwynt ar y copaon yn symud eira yn y gaeaf.

It is nearly February, and the mountains around Cwm Idwal have only just been dusted with snow. It isnt a winter like last year yet, and instead of the blue skies and snow down to the valleys, we have the odd summit that is covered with slippery slushy snow. With the snowfall at the beginning of the week came fine rain and low cloud, that meant that map reading and navigation had to be on top form in order to reach the top of Y Garn safely. Even though the journey on the edge of the nature reserve was grey, autumnal and wet, it was worth every step. Around 50m from the top of Y Garn, the weather had changed and there were fine examples of how the wind shapes the snow on the summits in winter.

Picture 011

Picture 019<

Roedd gwobr arall yn ein disgwyl ar gopa’r Garn hefyd…. Tua munud cyfa o doriad yn y cymylau, digon o amser i weld cip o’r Wyddfa i’r De Orllewin, Aber Menai i’r Gogledd Orllewin ac yna Pen yr Ole Wen i’r gogledd ddwyrain. Caeodd y cymylau mewn amrantiad, a roeddem yn ol yn y glaw mân ar y ffor’ i lawr heibio Lyn Y Cŵn a’r Twll Du. Erbyn i ni gyraedd yn ôl at ganolfan Ogwen roeddem allan o’r glaw ac yr oedd hi’n eithaf cynnes fel dechrau’r Gwanwyn, er, ella mai’r daith gerdden oedd wedi ein cynhesu!

There was another reward awaiting us on the top of Y Garn… a break in the cloud that lasted a whole minute! Enough time to see Y Wyddfa to the south west, AberMenai to the north west, and Pen yr Ole Wen to the north east. The clouds closed again in the blink of an eye, and we were back back in the fine rain on the the way past Llyn Y Cŵn and Y Twll Du. By the time we reached the new Ogwen centre we were out of the rain and it was quite warm, like a day of spring, but it may have been the walk that warmed us!

Picture 013

Picture 015