Newyddion

Agoriad Swyddogol Ogwen / Ogwen Official Opening

1-ogwen (2) bach

Roedd hi’n fore dydd Iau’r 18fed o Orffennaf ac roedd hi’n fore bendigedig o Haf. Roedd yr haul yn tywynnu, yr awyr yn glir a bron dim awel, ond roedd bwrlwm ym Mhen Y Benglog. Roedd pobl yn ymgynnull mewn hwyliau da ar gyfer agoriad swyddogol adeilad newydd ‘Ogwen’.
Roedd yr anrhydedd o dorri’r rhuban gan y gweinidog John Griffiths, ac yr oedd yntau yn ogystal ag uwch swyddogion partneriaeth Cwm Idwal wedi rhoi areithiau difyr dros ben gan ganmol pawb am eu gwaith caled cyn cyrraedd y diwrnod hwn.

_13L7121

_13L7113

Ar ôl yr areithiau cafodd y gweinidog yn ogystal â phlant Ysgol Dyffryn Ogwen i ddefnyddio’r cyfarpar dehongli am y tro cyntaf, sy’n cynnwys model tri dimensiwn rhyngweithiol a sgriniau cyffwrdd sy’n werth ymweld â’r safle i’w defnyddio.

_13L7071

Ar ôl i’r gweinidog ffarwelio, cafwyd taith at Lyn Idwal gan swyddog partneriaeth Cwm Idwal, Guto Roberts, gyda disgyblion gwaith maes Ysgol Dyffryn Ogwen, Dewi Davies a Dewi Roberts yn cyfoethogi’r trafodaethau. Tra bod y daith yma yn bwrw yn ei blaen roedd disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy ac Ysgol Dyffryn Ogwen yn cael sesiwn blasu dringo, fel rhan o ddathliadau’r agoriad, gan swyddogion awyr agored gwersyll Yr Urdd, Glan Llyn.

_13L7138

Ar ôl cinio blasus a ddarparwyd gan fwthyn Ogwen, roedd hi’n amser am daith wedi’i arwain gan Ieuan Wyn, taith oedd yn trafod tarddiad enwau lleoedd a’u cyd-destun yn niwylliant y fro. Roedd y daith yn mynd at Lyn Idwal ac yn dod i ben ar y traeth lle’r oedd y cerddor Lleuwen Steffan yn canu. Roedd llais swynol Lleuwen yn canu alaw ‘Mab Y Môr’ yn ddiweddglo hyfryd i ddiwrnod bendigedig.

_13L7177
_13L7198

Mae’r ganolfan ar agor rŵan a pob dydd dros yr Haf, os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â Guto Roberts ar guto.roberts@nationaltrust.org.uk, neu’n well byth galwch heibio’r ganolfan newydd a dewch i siarad â mi wyneb yn wyneb.

llinellau1

It was the morning of the 18th of July and it was a glorious summer morning. The sun was shining, the sky was cloud free and there was barely a breeze, but, there was something buzzing around Pen Y Benglog. People were coming together to celebrate the official opening of the new building named: ‘Ogwen’.
The honour of cutting the ribbon belonged to John Griffiths, and he as well as the executive officers of the Cwm Idwal partnership gave rousing speeches congratulating and thanking everyone involved in the project for their hard work during this project.

After the speeches pupils from Ysgol Dyffryn Ogwen as well as the minister got the chance to be the first users of the interpretation equipment. These include a 3D interactive map and touch-screen technology, which is worth visiting the centre to see.

After the minister departed, a walk up to Llyn Idwal was led by the Cwm Idwal partnership officer, Guto Roberts. And the discussions along the walk were enriched by contributions by Dewi Davies and Dewi Roberts. During this walk, pupils from Ysgol Dyffryn Ogwen and Ysgol Dyffryn Conwy were having climbing taster sessions, as part of the opening celebrations, ran by outdoor officers from Gwersyll Yr Urdd Glan Llyn.

After a tasty lunch provided by Ogwen Cottage, it was time for a guided walk by the Bard, Ieuan Wyn. The purpose of the walk was to interpret the origin of the names of features found in and around Cwm Idwal and their context in local culture. The walk travelled around Llyn Idwal and came to an end at the beach where the musician, Lleuwen Steffan was singing. Lleuwen Steffan’s beautiful voice singing her song ‘Mab Y Mor’ was a perfect end to a perfect day.

The centre is now open and will be open every day throughout the summer, if you would like more information please contact Guto Roberts on guto.roberts@nationaltrust.org.uk or better still why not visit the site to chat face to face.