Chwedlau

Trychineb y Tywysog Idwal

Mae Cwm Idwal heddiw yn le hardd ag heddychlon heddiw, ei lonyddwch yn cael ei dorri dim ond gan swn y gwynt a’r dŵr. Er hynny mae gan y cwm hanes llawer mwy anfad. Yn ystod y 12fed ganrif roedd Gwynedd, a Chymru yn cael ei reoli gan dywysog pwerus, Owain Gwynedd a fu’n brwydro’n llwyddiannus yn erbyn byddinoedd brenin Lloegr, Harri II. Roedd gan Owain nifer o blant, ond ei ffefryn oedd Idwal. Roedd Idwal yn blentyn galluog a doeth, ac roedd gan Owain feddwl y byd ohono.

Pan alwyd i Owain fynd i ryfela unwaith eto, roedd yn rhy beryglus i Idwal i ymuno a’i dad ar y daith, felly gadawodd Owain ei fab yng ngofal ei ewythr, Nefydd Hardd. Roedd gan Nefydd fab ei hun o’r enw Dunawd. Roedd Dunawd yn hogyn cas a dim hanner mor alluog ag Idwal. Tyfodd Nefydd a Dunawd yn genfigennus o ddoniau Idwal a chynlluniodd y ddau yn ei erbyn. Un bore awgrymwyd y byddai’r tri yn mynd am dro at lyn yn y mynyddoedd cyfagos. Wrth ymylu at lan y llyn, gan wybod na allai Idwal nofio, gwthiodd Dunawd ei gefnder a disgynodd Idwal i mewn i’r dyfrion oer. Yn llawn cenfigen, safodd Nefydd a Dunawd wrth y lan yn gwylio Idwal yn boddi.

Ar ôl i Owain ddychwelyd o’r frwydr clywodd am ffawd ei fab torrodd Owain ei galon. Yn llawn dicter alltudiodd Nefydd a Dunwad o’r deyrnas am byth a galwyd y llyn yn Llyn Idwal er cof am ei fab.

Dywedir hyd heddiw nad oes unrhyw aderyn yn hedfan dros wyneb y dŵr fel arwydd o barch a bod galwadau wylofus Idwal i’w clywed wrth lannau’r llyn yn ystod tywydd stormus.

Twll Du

Mae hollt fawr y Twll Du yn ganlyniad o’r prosesau daearegol a ffurfiodd mynyddoedd Eryri, a chafodd ei ddatgelu gan erydiad y rhewlifoedd. Ond ganrifoedd yn ynghynt, pan chwedlau, nid gwyddoniaeth, fu’n egluro’r byd, roedd gan y Twll Du darddiad llawer mwy dramatig.

Yn ystod y ganrif 1af ymosododd llengoedd Rhufain ar Ynys Prydain gan drechu pawb o’u blaenau. Ond doedd llwythau Celtaidd y gorllewin ddim am ildio yn hawdd. Roedd llawer o’r gwrthryfela yn cael ei annog a’i ysbrydoli gan dderwyddon pwerus Ynys Môn, ceidwaid y duwiau ac yr hen ffordd o fyw. Daeth Ynys Môn yn fygythiad ac yn darged: cnewyllyn gwrthryfel y Celtiaid, a tharddiad eu nerth.

Wrth i’r llengoedd bathau drwy fynyddoedd Eryri a nesáu at Fôn, defnyddiodd y derwyddon eu hud a lledrith a galw ar y duwiau am gymorth. Fe atebodd y duwiau. Rhwygodd mellten drwy’r cymylau a tharo mynyddoedd Eryri a’u hollti gan greu clwyf enfawr yn y graig. O’r hollt yma cododd cymylau trymion o grombil y mynyddoedd.

Llifodd y cymylau dwys ar draws y dyffrynnoedd a dros y dŵr. Diflannodd Ynys Môn mewn niwl gan guddio’r ynys rhag llygaid y Rhufeiniaid. Parhaodd y mewnfudwyr heibio, ond roedd Môn wedi dianc, wedi ei warchod gan y niwl, y duwiau a’r derwyddon.

Carw Llyn Bochlwyd

Amser maith yn ôl, roedd criw o helwyr a’u cŵn yn ymlwybro trwy Nant y Benglog yn chwilio am anifail i’w ddal. Roedd eu galwadau’n adleisio rhwng y llethrau cyn i ohonynt weld carw mawr yn pori wrth nant fechan gerllaw. Cyn iddynt allu mynd yn ddigon agos ato, cododd y carw ei ben, clywodd y perygl ac fe garlamodd i ffwrdd a diflannu i’r niwl yn troelli ar hyd y llethrau.

Dilynodd yr helwyr hoel y carw am oriau i fyny’r mynydd. Ar ôl peth amser, rhwng y niwl fe welsant y carw unwaith eto, y tro hwn ar ben craig fawr uwchben llyn anghysbell. Yn bendant nad oedd ffordd i’r carw ddianc y tro yma, roeddent yn llawn cyffro yn dychmygu’r wobr o’u blaenau.

Yna, er mawr syndod i’r helwyr, fe neidiodd y carw. Llamodd o’r graig mewn un naid amhosib gan osgoi’r creigiau oddi tanodd, a glanio yn y llyn. Gallai’r helwyr neud dim, ond syllu wrth i’r carw nofio i ffwrdd, gyda dim one ei foch llwyd i’w weld uwchben wyneb y dŵr cyn iddo ddiflannu i’r niwl am byth.

O’r chwedl yma daw enw’r llyn, Llyn Boch-lwyd. Mae rhai heb ymwybod wedi ei alw’n “Australia Lake” ond mae’r enw Cymraeg cywir yn cynnal y chwedl a’r dreftadaeth, ein cysylltu i’r tir. Mae’n enghraifft rymus o pam fod angen cadw, dathlu a defnyddio’r enwau Cymraeg.