Newyddion

Adeilad newydd, llwybr newydd / New building, new path

Gyda adeilad newydd gogoneddus ‘Ogwen’ yn gyflwyniad haeddiannol i Gwm Idwal, mae angen arweiniad gwiw i’r golygfeydd godigog sydd ar gael i bawb wrth iddynt adael yr adeilad hwnnw am y mynyddoedd. Daw hyn ar ffurf llwybr newydd sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Mae’r gwyneb newydd yn defnyddio technegau dra gwahanol i’r gwyneb llwybr blaenorol, ac yn llawer brafiach o dan draed.

P1010609

P1010610

P1010607

P1010614

With, ‘Ogwen’, the glorious new building acting as a suitable prelude to Cwm Idwal, there needs to be an appropriate introduction to the magnificent views that is available to all that leave the new building for the mountains. This comes in the form of a new path that is currently being built. The methods used to surface the new path is very different to the methods used previously, and is a lot more pleasant under foot.

Newyddion

Y lechen olaf yn ei lle – The last slate in place

Mae’r tywydd ar droi ar ol cyfnod o dywydd lled wanwynol ac mae’r hen gymylau llwyd llaith wedi dychwelyd unwaith yn rhagor i Gwm Idwal a Nant Y Benglog. Mae’n dda felly fod y gwaith gosod llechi wedi ei gwblhau ar adeilad Ogwen. Dwi’n siwr fydd y gweithwyr oddi fewn i’r adeilad wrth eu boddau yn cael gweithio mewn amodau sych a chynnes o’r diwedd!

P1010509

The weather, after a hint of spring, has once again taken a turn for the worst at Cwm Idwal and Nant y Benglog, with the drizzly grey clods returning. It’s great news therefore that the last slate is in place on the roof of the Ogwen building. I’m sure that the workers inside will be delighted with working in dry and warm(ish) conditions for a change!

P1010510

Newyddion

Croeso i flog Cwm Idwal ac adeilad Ogwen – Welcome to the Cwm Idwal and Ogwen building blog

Cwm Idwal
Sefydlwyd Partneriaeth Cwm Idwal yn Ngwanwyn 2010 er mwyn sicrhau rheolaeth effeithlon ar gyfer y Warchodfa Natur Genedlaethol, rhwng Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Parc Cenedlaethol Eryri & Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae datblygu canolfan Ogwen yn un o lawer ddyletswyddau’r bartneriaeth.

The Cwm Idwal Partnership was established in the Spring of 2010 between National Trust, Snowdonia National Park & Countryside Council for Wales, in order to effectively manage the National Nature Reserve. The Ogwen re-development is one of the many roles of the partnership.