Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal yn cynnwys nifer eang o gynefinoedd, sy’n cynnal pobogaethau o bryfetach, mamaliaid bach, amffibiaid, ymlysgiaid, pysgod ac adar. Mae’r cynefinoedd yma yn cynnwys rhostir gwlyb ,a sych, glaswelltir asidaidd, glaswelltir calchog, llystyfinat ar glogwyni, llynnoedd maeth isel, a rhostir mynyddig. Dyma rai o’r rhywogaethau sy’n byw yn y cynefinoedd hyn.
Mamaliaid
Yn eithaf anarferol y gwelir famaliaid yn y warchodfa natur, yn aml maent yn guddiedig neu’n ymddangos rhwng y machlud a’r wawr. Ymhlith y mamaliad yma mae carlwm, gwenci, tyrchod daear, ystlumod, geifr, a llwynogod.
Adar
Mae amrywiateth sylweddol o adar i’w gweld yng Ngwm Idwal. Mae rhai, fel y dryw, a’r gigfran i’w gweld yn y cwm trwy’r flwyddyn. Mae eraill, fel corhedydd y waun, clochdar y cerrig, tinwen y garn a mwyalchen y mynydd yn mudo yn ôl i’r warchodfa bob gwanwyn.
Adar Dŵr
Pryfetach
Mae’r pryfetach sydd yn byw yn Nghwm Idwal yn amrywiol ac eang iawn. Gwelir wahannol löynod byw, gwyfynod, cacynnod, trychfilod, gwas y neidr a pfryfaid cop yn y cwm. Yn ogystal mae Cwm Idwal yn un o gadarnleoedd Cacwn y Llus (Bombus monticola). Isod fe welwch rhai o’r rhywogaethau yma.
Rhywogaeth Coll
Wyddoch chi fod Cwm Idwal yn arfer bod yn un o gynefinoedd Chwilen Yr Wyddfa? Rhyogaeth sy’n hoff o lefydd oer, cafodd ei weld yng Ngwm Idwal am y tro diethaf yn 1980. Dim ond ar fynydd uchaf Cymru y cwelir y chwilen yma heddiw.
Ble nesaf…
Be sy’n digwydd yng GNG Cwm Idwal?
Cliciwch y linciau isod i weld be sydd wedi bod yn digwydd yn y Warchodfa…
Monitro’r llwybrau
Yng Nghwm Idwal, defnyddir cerrig i roi gwyneb ar y llwybrau. Mae rhinweddau daearegol Cwm…
Beth yw erydiad llwybrau?
Mae erydiad llwybr yn gyfuniad o effaith yr elfennau ac effaith pobl. Unwaith bydd llystyfiant…
Rheoli’r Warchodfa
Rheolir y warchodfa drwy bartneriaeth sy’n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth…