Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal yn cynnwys nifer eang o gynefinoedd, sy’n cynnal pobogaethau o bryfetach, mamaliaid bach, amffibiaid, ymlysgiaid, pysgod ac adar. Mae’r cynefinoedd yma yn cynnwys rhostir gwlyb ,a sych, glaswelltir asidaidd, glaswelltir calchog, llystyfinat ar glogwyni, llynnoedd maeth isel, a rhostir mynyddig. Dyma rai o’r rhywogaethau sy’n byw yn y cynefinoedd hyn.
Mamaliaid
Yn eithaf anarferol y gwelir famaliaid yn y warchodfa natur, yn aml maent yn guddiedig ac yn ymddangos ar ol y machlud ac yn ysrod oriau’r wawr. Ymhlith y mamaliad yma mae carlwm, gwenci, tyrchod daear, ystlumod, geifr, a llwynogod.
Adar
Mae amrywiateh sylweddol o adar i’w gweld yng Ngwm Idwal. Mae rhai, fel y dryw, a’r cigfran i’w gweld yn y cwm trwy’r fwlyddyn. Mae eraill fel corhedydd y waun, clochdar y cerrig, tinwen y garn a mwyalchen y mynydd yn mudo yn ôl i’r warchodfa bob gwanwyn.
Adar Dŵr
Pryfetach
Mae’r pryfetach sydd yn byw yn Nghwm Idwal yn amrywiol ac eang iawn. Gwelir wahannol löynod byw, gwyfynod, cacynnod, trychfilod, gwas y neidr a pfryfaid cop yn y cwm. Yn ogystal mae Cwm Idwal yn un o gadarnleoedd Cacwn y Llus (Bombus monticola). Isod fe welwch rhai o’r rhywogaethau yma.
Rhywogaeth Coll
Wyddoch chi fod Cwm Idwal yn arfer bod yn un o gynefinoedd Chwilen Yr Wyddfa? Rhyogaeth sy’n hoff o lefydd oer, cafodd ei weld yng Ngwm Idwal am y tro diethaf yn 1980. Dim ond ar fynydd uchaf Cymru y cwelir y chwilen yma heddiw.
Ble nesaf…
Llinell amser
450 Miliwn o flynyddoedd yn ôl Creigiau Cwm Idwal yn cael eu ffurfo Ffrwydradau folcanig…
Pobl Cwm Idwal
Mae dylanwad pobl yn ardal Cwm Idwal heddiw yn eithaf amlwg yn y tirlun. Ond…
Planhigion Cwm Idwal
Planhigion Arctig-Alpaidd Mae nifer o blanhigion anhygoel yng Nghwm Idwal, ac mae’r rhan fwyaf o’r…
Hindreulio
Mae’r creigiau’n agored i’r elfennau mewn amryw o lefydd, yn enwedig ar y llethrau a’r…