Taith Awyr Dywyll
February 4 @ 5:00 pm - 8:00 pm

Ymunwch efo ni am daith gerdded yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal a phrofwch y tirwedd arbennig yma yn y nos.
Byddwn yn cwrdd wrth ganolfan groeso Cwm Idwal wrth iddi nosi cyn dilyn y llwybr o amgylch Llyn Idwal gan stopio o bryd i’w gilydd i ddysgu am y sêr a phwysigrwydd tywyllwch. Cyfle gwych i brofi mynyddoedd Eryri mewn gwedd wahanol a mwynhau llonyddwch y nôs.
Be i ddisgwyl?
- Taith yn cychwyn 5:00 pm.
- Taith 3 awr (4Km).
- Mae rhaid archebu lle.
Be ddod gyda chi?
Awgrymwn eich bod yn gwisgo dillad cynnes ac sydd yn dal dŵr. Gofynnwn hefyd i chi wisgo esgidiau addas. Os oes gennychg flachlamp dewch a hi, ond bydd digon gennym i rannu os oes angen.
ARCHEBWCH EICH LLE YMA