- This event has passed.
Taith Cofnodi Cacynod

Ymunwch efo ni i helpu gofnodi cacynod yng Nghwm Idwal.
Manteisiwch ar gyfle gwych i gysylltu efo’r natur o’n cwmpas ac i ddysgu am ein cacynod yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal! Os yn hen law ar gofnodi cacynod neu heb unrhyw brofiad blaenorol, mae croeso i bawb ymuno a chyfrannu at y gwaith cadwraethol pwysig yma.
Be i ddisgwyl?
- Taith yn cychwyn 12:30 pm.
- Taith tua 3 awr (4Km).
- Llwybr anwastad a gwlyb mewn mannau.
Lle i gwrdd?
Byddwn yn cwrdd tu allan i ganolfan groeso Cwm Idwal (LL57 3LZ) cyn dechrau ein taith yn hamddenol tuag at y cwm.
NODWCH: Taith ddim yn addas efo cwn. Taith am ddim.
Be ddod gyda chi?
Awgrymwn eich bod yn gwisgo dillad cynnes ac sydd yn dal dŵr. Gofynnwn hefyd i chi wisgo esgidiau mynydd addas. Mae croeso i chi ddod a rhywbeth i fwyta a diod efo chi, neu gallwch brynu rhywbeth yn y caffi yn y ganolfan groeso.
Parcio
Mae’r maes parcio yn llenwi’n gynnar iawn, felly mae’n syniad da cyrraedd gyda digon o amser. Mae hefyd posib dal gwasanaeth bws (Traws Cymru T10) o gyfeiriad Bethesda ac o gyfeiriad Capel Curig.