Daearyddiaeth

Yn ystod Oes y Rhew, roedd haen drwchus o rew dros ardal eang o Eryri ac roedd rhewlifoedd llai yn ffurfio pan oedd eira yn cywasgu i ffurfio talpiau mawr o rew a oedd yn symud i lawr y mynyddoedd.

Roedd y rhewlifoedd hyn yn casglu mewn cymoedd megis Cwm Idwal, Cwm Cneifion a Chwm Clyd ac wrth symud i lawr y llethrau roeddent yn plicio cerrig o waliau cefn y cymoedd ac yn sgrafellu’r gwaelod i adael pantiau bas.

Wrth i’r rhewlifoedd gilio roedd defnydd yn cael ei ddyddodi mewn tomenni a elwir yn farianau. Mae marianau ger Llyn Idwal a elwir yn ‘Beddau Milwyr Ynys Prydain’. Ceir un marian hir yn rhedeg ar ochr ddwyreiniol y Llyn sydd, ynghyd â’r graig galed ym mhen Gogleddol y Cwm, yn ffurfio ymylon llyn rhewlifol – Llyn Idwal. Mae’r tirffurfiau hyn i’w gweld yng Nghwm Idwal heddiw, ac yn destun astudiaeth i nifer helaeth o fyfyrwyr o bob oed.

Nant Ffrancon

Mae Nant Ffrancon, i’r gogledd o Gwm Idwal yn ddyffryn ‘siap-U’ glasurol gyda ochrau serth, gwely gwastad ac yr Afon Ogwen (afon afrwydd) yn llifo try’r canol. Mae nodweddion rhewlifol eraill i’w gweld ar draws yr ardal yn cynnwys cribau main, sbardunau blaendor, dyffrynnoedd crog a gwaddodion rhewlifol.

Nodwedd amlwg yn nhirwedd Cwm Idwal ydi’r meini enfawr wedi eu gwasgaru ar hyd y lle, yn aml yn sefyll ar ben fryn bach. Cafodd y meini yma eu cludo i lawr o’r mynyddoedd uchel gan y rhwelifoedd. Ar ddiwedd Oes y Rhew ac wrth i’r rhewlifoedd gilhau cafodd y meini yma, a oedd yng nghanol y rhwelif, eu gadael yn y’r fan a’r lle wrth i’r rhew ddadmer o’u cwmpas. Maent wedi aros yn eu lleoliad presennol ers hynny.

Geographical processes continue to impact the landscape in Cwm Idwal and the surrounding area. The freeze-thaw processes continues to grind the rocks into smaller pieces every year, and landslips can occur on the steepest slopes.

Darllen pellach: BBC Bitesize – Glaciation

Ble nesaf…