Taith Natur

Taith natur Cwm Idwal
Be i ddisgwyl?
- Taith yn cychwyn 9:30 am.
- Taith 3 awr (4Km).
Byddwn yn darganfod bywyd gwyllt, clywed am sut mae’r tirweddd hynnod yma wedi datblygu, sylwi ar blanhigion y gwanwyn, a gweld adar yn dychwelyd am y tymor. Byddwn yn cwrdd tu allan i ganolfan groeso Cwm Idwal (LL57 3LZ) cyn dechrau ein taith yn araf tuag at y cwm. Wrth i ni gerdded o amgylch y llyn, byddwn yn stopio i sylwi ar unrhyw ddiddordebau a welwn. Tua hanner ffordd ar hyd y daith fe fydd cyfle i gael seibiant. Byddem wedyn yn ymlwybro yn araf yn ôl i lawr am y ganolfan groeso.
NODWCH: Mae’n rhaid i unhryw gi fod ar dennyn drwy gydol y daith. Mae’r daith am ddim.
Be ddod gyda chi?
Awgrymwn eich bod yn gwisgo dillad cynnes ac sydd yn dal dŵr. Gofynnwn hefyd i chi wisgo esgidiau addas. Mae croeso i chi ddod a rhywbeth i fwyta a diod efo chi, neu gallwch brynu rhywbeth yn y caffi yn y ganolfan groeso.
Parcio
Mae’r maes parcio yn llenwi’n gynnar iawn, felly mae’n syniad da cyrraedd gyda digon o amser. Mae hefyd posib dal gwasanaeth bws (Traws Cymru T10) o gyfeiriad Bethesda ac o gyfeiriad Capel Curig.