Planhigion Arctig-Alpaidd
Mae nifer o blanhigion anhygoel yng Nghwm Idwal, ac mae’r rhan fwyaf o’r planhigion mwyaf prin yn rhai ‘Arctig-alpaidd’. Fel sy’n amlwg o’r enw ‘Arctig -alpaidd’, mae’r planhigion yma wedi ymgartrefu mewn hinsoddau oer iawn fel y ceir yn yr Arctig, ym mynyddoedd uchel yr Alpau, ac yng Nghwm Idwal.
Mae ardaloedd o fewn Cwm Idwal yn cynnig cynefin delfrydol ar gyfer rhai o’r planhigion hyn, sydd wedi addasu yn berffaith ar gyfer byw yn y fath le. Rhai o nodweddion y planhigion ‘Arctig-alpaidd’ yw bod y planhigion blodeuol yn tyfu mewn matiau neu ‘glustogau’ isel sydd â thymor blodeuo byr; mae hyn yn eu diogelu rhag yr elfennau eithafol sydd i’w cael yn yr ardaloedd hyn. Fel arfer mae’r planhigion hyn yn tyfu mewn mannau uchel, uwch na 600m, ac yn wynebu’r Gogledd Ddwyrain.
Un o’r planhigion ‘Arctig-alpaidd’ cyntaf i flodeuo yng Nghwm Idwal yw’r tormaen porffor, neu’r tormaen gyferbynddail, neu i roi ei enw Lladin, saxifraga oppositifolia. Mae’r tormaen cyferbynddail fel arfer yn blodeuo o tua mis Chwefror drwy fis Ebrill, ond mae’r tymor blodeuo yn newid yn amrywio ac yn dibynnu ar y tywydd gaeafol a gawn yng Nghwm Idwal.


Mae’r enw tormaen cyferbynddail yn fwy addas na thormaen borffor yng Nghwm Idwal, gan fod blodau gwyn a phinc i’w cael ar y tormaenni hyn yma. Gwelir llun o’r tormaen porffor sydd â blodyn gwyn oddi tan. Gallai’r blodyn gwyn fod yn ganlyniad o gyfyngiad genynnol phlanhigion tormaen cyferbynddail Cwm Idwal. Ffordd effeithiol adnabod y planhigyn yw drwy astudio’r dail. Maent yn tyfu gyferbyn â’i gilydd mewn 4 rhes, mae smotiau gwyn ar flaenau’r dail crynhoad o galsiwm sy’n creu’r smotiau hyn.

Un o’r planhigion ‘Arctic- alpaidd’ enwocaf sy’n tyfu yng Nghwm Idwal yw brwynddail y mynydd, neu Lili’r Wyddfa, sy’n tyfu ar wynebau clogwyni uchaf Y Cwm. Mae’r planhigyn yn tyfu mewn rhai ardaloedd eraill yn Eryri on heb dyfu yn unlle arall yn Ynysoedd Prydain. Dim ond am rhyw bythfnos y byddai’r planhigy flodeuo felly mae Brwynddail y Mynydd yn well enw i gyfleu edrychiad disylw y planhigyn am rhan fwyaf y fwlyddyn.
Planhigion Cigysol
Mae Cwm Idwal yn ardal lle mae’r glawiad blynyddol yn gymharol uchel.
Pan fydd dŵr yn llifo’n gyson drwy’r pridd mae’n golchi’r mwynau, e.e. Nitrogen o’r pridd corsiog. Mae priddoedd corsiog hefyd yn fwy asidig, ac mae hyn yn cyfyngu ar nifer y rhywogaethau all fyw yma.
Mae dau blanhigyn arbennig yng Nghwm Idwal sydd wedi addasu ar gyfer goroesi mewn amodau o’r fath, sef tafod y gors (Pinguicula vulgaris), a’r gwlithlys (Drosera rotundifolia).
Mae’r planhigion hyn yn wahanol i blanhigion eraill yng Nghwm Idwal gan eu bod yn dal a threulio pryfetach. Mae’r planhigion wedi addasu i wneud hyn er mwyn cael y mwynau angenrheidiol i dyfu, blodeuo a hadu.


Er mwyn mesur natur a chyflymdra’r olyniaeth, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro cyfansoddiad y llystyfiant pob pum mlynedd.
Mae sefydliadau eraill hefyd yn gwneud ymchwiliadau achlysurol, gyda chyrff megis y BTO, a’r RSPB yn trefnu arolygon, ac mae prifysgolion yn defnyddio’r warchodfa ar gyfer addysgu myfyrwyr mewn technegau ecolegol, daearyddol a rheolaeth cefn gwlad.