Enwau yn Yr Ardal

Isod ceir rhestr o enwau yn yr ardal a phwt o esboniad gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Aber Brwyn

Dyma’r enw a roddir ar y lle mae Afon Bochlwyd yn llifo i mewn i Lyn Ogwen.

Afon Ogwen

Mae Afon Ogwen yn codi ar Garnedd Dafydd ac yn llifo i Lyn Ogwen, trwy Ddyffryn Ogwen ac i’r Fenai yn Aberogwen. Perthyn i ddosbarth o enwau afonydd sydd wedi’u henwi ar ôl creaduriaid. Mae’n debygol bod yr elfen gyntaf og yn golygu ‘cyflym, llym’ (mewn gwrthgyferbyniad â diog). Awgrym arall yw mai Gwyddeleg og ‘ieuanc’ a geir yma. Yr ail elfen yw Banw sef ‘porchell, mochyn bach’, ac mae’n disgrifio afon sy’n twrio drwy’r tir fel y byddai mochyn bach yn gwneud. Cymharer ag Afon Hwch yn Llanberis, Afon Beinw yn Nolwyddelan, ac Afon Twrch ar y Berwyn.

Beddau Milwyr Ynys Prydain

Y twmpathau sydd i’w gweld ar lan gorllewinol Llyn Idwal ydi Beddau Milwyr Ynys Prydain. Marianau o waddodion y rhewlifoedd diweddaraf ydynt mewn gwirionedd. Nid yw’n glir o ble y daw’r enw.

Bwlch y Cywion

Dyma’r bwlch i’r de o gopa Foel Goch ac i’r dwyrain o’r Llymllwyd.

Castell y Gwynt

Mae Castell y Gwynt ar ochr gorllewinol y Glyder Fach, yn nannedd y gwynt. Mae castell yn enw addas ar greigiau ysgithrog ar grib mynydd, fel tyrrau amddiffynfa uchel. (Mae Castell y Geifr wrth ymyl y Garn yn enghraifft arall).

Clogwyn Crach

Dyma’r clogwyn sydd i’r dwyrain o Afon Bochlwyd. Mae’r enw ‘crach’ yn cyfeirio at edrychiad y graig, iddo edrych fel chrachen. Yn y Saesneg caiff ei alw yn ‘Bochlwyd Buttres’.

Craig y Foty

Dyma’r enw ar y clogwyn a gyfeirir ato yn y Saesneg fel ‘Milestone Buttress’

Cwm Clud

Cwm crog islaw’r Garn. Mae’n bosib bod y gair clud, ‘llwyth wedi ei gludo’, yn cyfeirio at y cerrig rhydd ar lethrau’r Ro Wen uwchlaw Llyn Clud. Posibilrwydd arall yw mai clyd yn golygu ‘cysgodol, diddos’ sydd yma, yn ddisgrifiad o natur y cwm. Mae Nant Clud (Afon Cwm Clud) yn llifo o Lyn Clud i Lyn Idwal.

Cwm Cneifion (neu Gwm Cneifiau)

Cwm crog islaw Bwlch y Ddwy Glyder. Ystyr cneifiau/ cneifion (lluosog yr enw cnaif) yw ‘cudynnau o wlân wedi’u cneifio’. Mae’n bosib bod yr enw’n cyfeirio at y cerrig gwynion amlwg ar y llethrau sy’n atgoffa rhywun o ddarnau o wlân neu gneifion newydd (gan mai allan ar y mynydd y byddai amaethwyr yn cneifio ers talwm).

Drws Cwm Clud

Mae Drws Cwm Clud wedi ei leoli yng nghlogwyni deheuol Cwm Clud.

Glanrhyd Idwal

Dyma’r enw ar yr ardal lle mae un o adeiladau’r hostel ieuenctid (YHA) heddiw. Ar un tro roedd ysgol ar y safle yma.

Glyder Fawr a Glyder Fach

Ystyr cluder neu gludair yw ‘pentwr, cruglwyth o goed neu gerrig sydd wedi’u casglu ynghyd’. Mae’n bosibl bod yr enwau’n cyfeirio at y pentyrrau o gerrig rhydd ar gopa’r ddau fynydd, neu o bosibl, at y creigiau hynny sydd yn nannedd y gwynt ar ochr orllewinol copa’r Glyder Fach. Cymharer Dôl-y-gludair ger Dolgellau.

Llyn Bochlwyd

Mae’r enw yn dod o boch’ ‘llwyd’ sy’n cyferirio at hen chwedl yn gysylltiedig efo’r llyn.

Llwybr y Carw

Dyma’r enw ar y llwybr sy’n ymlwybro o Llyn Idwal, heibio’r Twll Du, tuag at Llyn y Cwn. Enw diddorol sy’n awgrymu fod ceirw yn arfer byw yma rhai canrifoedd yn ol.

Nant Ffrancon

Gall nant olygu ‘dyffryn’ neu ‘ffrwd’. Mae’n bosib bod ffranc (lluosog ffrancon) yn dynodi ‘milwr cyflogedig estron’ neu ei fod yn tarddu o’r Hen Saes. Franca sef ‘gwaywffon, picell’, ac mai disgrifiad ydyw o lifeiriant nerthol y nant, sy’n debyg i arf blaenllym, neu ynteu o greigiau pigog Braich Tŷ Du. Posiblirwydd arall yw fod “Ffrancon” yn tarddu o ‘Afancon’ y lluosog o afanc, felly ‘Nant yr Afancon’. Mae’r enw Sarn yr Afanc sydd hefyd wi weld yn y dyffryn yn rhoi nerth i’r awgrym yma.

Nant Ifan

Dyma’r enw ar y nant sy’n llifo i mewn i Lyn Idwal o’r clogwyni deheuol. Mae’r prif lwybr at Y Glyder Fawr yn croesi’r nant yma. Cafodd y bont lechi ei gosod yn 2018 i arbed y llystyfiant rhag cael ei sathru.

Pen Bryn Melyn

Dyma’r enw a roddir ar daiamid o dir sy’n ymestyn allan i Lyn Ogwen, hanner ffordd ar hyd glannau deheuol y llyn.

Perth yr Ewig

Ardal o dir sydd ar lannau gogledd orllewinol Llyn Ogwen. Mae ‘perth’ yn golygu ‘llwyn’ sy’n awgrymu edrychiad wahannol i’r safle yn y gorffennol. Carw benywaidd ydi ‘ewig’, eto yn awgrymu y bu ceriw yn byw yma amser maith yn ôl.

Rhiwiau Caws

Enw anarferol. A does dim dealltwriaeth lawn o ble y daw’r enw, na chwaith yn union y ble mae’n cyfeirio ato. Ar fapiau’r Arolwg Ordnans, mae’n cael ei roi fel enw ar glogwyni mawr Cwm Idwal a adnabyddir yn y Saesneg fel Idwal Slabs. Er hynny mae amheuaeth fod yr enw ‘Rhiwiau Caws’ yn cyfeirio at gyfres o dwmpathau bychain cyfagos. O bosib fod y ‘caws’ yn cyfeirio at edrychiad y twmpathau yma.

Trigyfylchau

Hen enw sy’n cael ei gyfeirio ato yn rai o gofnodion anturiaethau’r botanegwyr cynnar a’u tywyswyr. Mae’n debyg mai’r clogwyni naill ochr i’r Twll Du yw’r Trigyfylchau.

Tryfan

Mae dwy elfen i’r enw sef try-, elfen sy’n cryfhau (fel yn tryloyw ‘gloyw iawn’), a ban yn golygu ‘copa, pwynt, pig, corn’ (cymharer Bannau Brycheiniog sy’n cynnwys y ffurf luosog bannau). Felly ystyr Tryfan yw mynydd ag iddo gopa amlwg neu flaen main. Mae’n wahanol iawn i’r Glyder Fawr sy’n gruglwyth blêr yn ei ymyl.

Y Foel Goch

Mae’r Foel Goch wedi ei lleoli uwchlaw Nant Ffrancon. Fel ansoddair, ystyr moel yw ‘noeth’ (fel yn yr ymadrodd pen moel). Fel enw, mae’n air am fryn neu fynydd llwm (er enghraifft Moel Faban). Mae coch yn cyfeirio at liw’r graig.

Y Garn

Ystyr carn yw ‘tomen gerrig’. Mae’n digwydd yn gyffredin mewn enwau bryniau a mynyddoedd, er enghraifft Carn Fadrun, Llŷn, a’r Garn, Dolbenmaen.

Y Rô

Y Rô yw’r enw ar y traeth cerrig sydd ar lannau gogleddol Llyn Idwal. Daw’r enw o ‘gro’ sef gair arall am ‘graean’.

Mae enwau lleoedd hefyd yn gallu datgelu mwy o’n hanes sy’n fwy diweddar.

Un o’r enghreifftiau hyn yw dylanwad Tywysogion Gwynedd, Llywelyn Fawr a’i fab, Dafydd ar y bobl leol. Credir fod y mynyddoedd Carnedd Dafydd a Llywelyn wedi eu henwi gyntaf mewn darn o ganu mawl gan un o feirdd yr uchelwyr, sef Rhys Goch Eryri. Mae’n rhaid bod tywysogion wedi bod yn uchel iawn eu parch i gadw eu henwau ar ddau o’r mynyddoedd uchaf yn yr ardal.