450 Miliwn o flynyddoedd yn ôl

Creigiau Cwm Idwal yn cael eu ffurfo
Ffrwydradau folcanig yn cynhyrchu lafa, lludw a llwch. Dyddodion yn casglu ar waelod y môr, ffurfio haenau, cywasgu i ffurfio creigiau.
400 Miliwn o flynyddoedd yn ôl

Gwrthdrawiadau tectonig
Y cefnfor Iapetus yn cau wrth i blât tectonig Lawrentia ag Afalonia wrthdaro. Y gwrthdrawiad yma yn achosi’r platiau i blygu a gwthio arwyneb y ddaear i fyny i greu mynyddoedd mawr. Plygiadau yma i’w gweld heddiw yn synclin Cwm Idwal.
2.7 miliwn – 10,000 o flynyddoedd yn ôl

Oes y Rhew
Cyfres o gyfnodau oer yn gorchuddio Eryri mewn rhew a rhewlifoedd. Y cyfnod diweddaraf yn dod i ben 10,000 o flynyddoedd yn ôl ac yn gyfrifol am ffurfio’r tirlun yr ydym yn ei adnabod heddiw.
9,000 – 6,000 o flynyddoedd yn ôl

Yr Oes Fesolithig
Tystiolaeth o bresenoldeb pobl yng Nghwm Idwal yn cynnwys arfau wedi eu gwneud o gwarts ac olion cytiau crynion.
2,500 CCC – 43 CC

Oes yr Efydd ag Oes yr Haearn
Newid mewn patrymau amaethyddol a defnydd tir. Datblygiad iaith a diwylliant ‘Celtaidd’.
5ed Ganrif CC – 15eg Ganrif CC

Yr Oesoedd Canol
Diwylliant Cymreig. Oes tywysogion Cymru. Nifer o enwau lleoedd a chwedlau yn tarddu o’r cyfnod yma megis Carnedd Llywelyn ac Yr Elen, a chwedl Llyn Idwal.
1773

Deddf amgáu tir
Hawliau’r werin yn cael eu cwtogi a newid mawr ym mhatrymau amaethyddol Eryri. Tir yn cael ei “wella”, draeniau, waliau a ffens yn cael eu hadeiladu. Pobl yn gadael yr ucheldir a symud i fyw i’r trefi.
1895

Sefydlu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Sefydlwyd yr ymddiriedolaeth i warchod natur harddwch a hanes ar gyfer pawb. Prynwyd eiddo cyntaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn yr un flwyddyn, Dinas Oleu ger Bermo.
1939 – 1945

Yr Ail Ryfel Byd
Galw mawr am yr angen i gynhyrchu mwy o fwyd, cynnydd mewn cynnyrch amaethyddol yn dilyn y rhyfel. Olion o’r “Home Guard” i’w gweld yn y dyffryn, yn cynnwys amddiffynfeydd a thrapiau tanc.
1949

Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad.
Y ddeddf yn sefydlu’r corff Y Warchodaeth Natur – rhagflaenydd i Gyfoeth Naturiol Cymru
Agor y drws i sefydlu parciau cenedlaethol ym Mhrydain.
1951

Sefydlu Parc Cenedlaethol Eryri
Parc Cenedlaethol Eryri yn cael ei sefydlu – y trydydd ym Mhrydain i warchod harddwch naturiol yr ardal ac i hybu cyfleoedd i ddysgu ag hamddena.
Trosglwyddo tir stad y Penrhyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
1954

Gwarchodfa Natur Genedlaethol
Cwm Idwal yn cael ei ddynodi fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol, y cyntaf yng Nghymru oherwydd y ddaeareg arbennig a’r planhigion arctig-alpaidd prin yno.
1970au

Plotiau Cwm Idwal
Plotiau atal porri yn cael eu sefydlu yng Ngwm Idwal.
1998

Atal pori yng Nghwm Idwal
Pori defaid a gwartheg yn cael ei atal yng Nghwm Idwal mewn arbrawf hir dymor i weld pa effaith mae tynnu pwysau pori yn ei gael ar y llystyfiant.
2000

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy
Y ddeddf yn cryfhau ac yn ehangu hawliau cerdded ag hamddena.
2010

Partneriaeth Cwm Idwal
Parc Cenedlaethol Eryri, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyforth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwlad) yn cytuno i sefyldu partneriaeth i gydweitho i ddehongli, gwarchod ag addysgu am Gwm Idwal.
2013

Cyfoeth Naturiol Cymru
Y Cyngor Cefn Gwlad, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth yn cyfuno i ffurfio corff Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau fod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal, gwella a’u defnyddio yn gynaliadwy.
2020

Y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd
Y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
2020-2021

Argyfwng Cofid-19
Cau mynediad i Gwm Idwal i’r cyhoedd yn ystod y cyfnodau clô. Newid mawr yn nefnyddwyr Cwm Idwal wrth i’r clô orffen. Cwm Idwal yn fwy poblogaidd nag erioed i ymwelwyr yn rhannol drwy effaith cyfryngau cymdeithasol.
2024 –

Prosiect Natur Am Byth
Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydlu cyfres o brosiectau ar draws Cymru i helpu natur a rhywogaethau bregus. Yn Eryri mae elusen Plantlife yn arwain is-brosiect Tlysau Mynydd Eryri ag yn anelu i adfer a chryfhau poblogaethau o rywogaethau arctig alpaidd prin yng Nghwm Idwal.