Daereg

Cafodd Cwm Idwal ei ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol yn 1954, yn bennaf oherwydd y ddaeareg unigryw a geir yma, ac yn ail oherwydd y planhigion prin hynny sydd wedi ymgartrefu ar hyd y llethrau.

CreigiauYng Nghwm Idwal mae creigiau gwaddodol, igneaidd a metamorffig gafodd eu ffurfio yn ystod y cyfnod Ordofigaidd, tua 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd y creigiau hyn eu ffurfio drwy brosesau dyddodi ar waelod y môr yn ogystal â phrosesau folcanig a oedd yn cynhyrchu haenau o lwch, lludw a llifoedd lafa, ac yna drwy rymoedd cywasgu a chaledu.

Yn ddiweddarach, tua 40 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd grymoedd tectonig enfawr yn plygu a chywasgu’r haenau hyn ymhellach wrth i gramen y ddaear wrthdaro gan greu ffurf tonnau plygiedig yn y graig.

Gelwir gwaelodion y plygiadau hyn yn synclinau, a gwelir plyg synclin Idwal yn rhedeg i fyny’r Twll Du yng Nghefn Cwm Idwal. O bopty’r Twll Du, gwelwn le yr oedd gwely’r môr wedi ei godi. Heddiw mae’n bosib gweld tystiolaeth o hyn mewn ffurf ffosiliau Braciopodau, sef anifeiliaid a oedd yn byw ar waelod y môr, a geir ar gopa’r Garn (SH632595) ac ar hyd y Gribin (SH651686).

Natur plyguMae’r darlun uchod yn dangos natur y plygu a oedd yn ganlyniad i wrthdaro tectonig. Gellir gweld y darlun gwreiddiol ym Mwthyn Ogwen, sef canolfan Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ni fuasai’n bosib gweld trawstoriad o synclin Idwal yn y Twll Du oni bai am ddylanwad y rhewlifoedd, yn ystod Oes y Rhew, rhwng 10,000 a 13,000 o flynyddoedd yn ôl.

Charles Darwin
Mae Cwm Idwal wedi denu nifer fawr o bobl i’w astudio dros y blynyddoedd. Un o’r rheiny oedd y daearegwr a’r ecolegydd Charles Darwin. Ymwelodd Charles Darwin â Chwm Idwal wrth ddysgu technegau archwilio daearegol gyda’i athro Adam Sedgwick ym 1831. Aeth 11 mlynedd heibio cyn i Charles Darwin ymweld â Chwm Idwal eto, ond yn ystod y cyfnod hwn, mynychodd ddarlithoedd am ddam-caniaethau rhewlifol, a theithiodd i Dde America i weld rhewlifoedd yn Nhierra del Fuego.

Yn 1842 dychwelodd Charles Darwin i Gwm Idwal gyda gwybodaeth newydd a gadarnhaodd nifer o’r damcaniaethau rhewlifol hyn. Gallwch ddarllen mwy o hanes Charles Darwin mewn erthygl gan y gymdeithas ddaearegol:

Darllen ymhellach: Hanes Daearegol Eryri